Polisi ac Ymgyrchoedd
- Mae un o bob pedwar o bobl yn profi problem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn.
- Mae naw allan o ddeg o bobl â phroblemau iechyd meddwl yn profi stigma a gwahaniaethu.
Mae darparu cymorth uniongyrchol i filoedd o bobl bob blwyddyn yn golygu ein bod ni’n clywed yn rheolaidd am eu profiadau o wasanaethau iechyd meddwl, stigma a gwahaniaethu. Rydym yn gwybod bod angen i wasanaethau ac agweddau wella ac rydym yn ymrwymedig i wneud popeth y gallwn er mwyn dylanwadu yn gadarnhaol ar bolisi, arfer a dealltwriaeth gyhoeddus ar draws Cymru.
Rydym yn credu bod pawb sy’n profi problemau iechyd meddwl yn haeddu cael eu trin gydag urddas a pharch a dylent gael mynediad prydlon i gyngor, triniaeth a chymorth rhagorol. Trwy wrando ar ddefnyddwyr ein gwasanaeth, staff a phobl eraill â phrofiad o iechyd meddwl gwael, rydym yn cyfieithu profiadau go iawn i’n gwaith polisi ac ymgyrchu, gan hysbysu a dylanwadu ar wneithurwyr penderfyniadau a’r farn gyhoeddus. Rydym hefyd yn gweithio â sefydliadau parnter i gael yr effaith fwyaf posibl a chyflawni ymgyrchoedd deinamig fel Amser i Newid Cymru.
Lawrlwythwch ein Fframwaith Polisi a Materion Cyhoeddus yma.
Mae iechyd meddwl da yn dda i unigolion, sefydliadau a Chymru gyfan. Ar y gwrthwyneb i hyn, mae problemau iechyd meddwl yn costio tua £7.2biliwn i’r economi yng Nghymru bob blwyddyn, trwy wariant gofal iechyd a chymdeithasol, absenoldeb a chynhyrchedd gostyngol yn y gwaith. Rydym yn credu mai busnes pawb yw iechyd meddw, ac mae gennym i gyd rôl bwysig i chwarae er mwyn gwneud Cymru yn le gwell o ran iechyd meddwl i fyw, dysgu a gweithio.
Mae Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Gofal, Katie Dalton yn arwain ein gwaith polisi ac ymgyrchoedd. Cewch gysylltu â hi drwy ebostio katiedalton@gofal.org.uk neu ffonio ein swyddfa ganolog ar 01656 647722. Os hoffech chi ddarganfod y diweddaraf am ein gwaith polisi ac ymgyrchoedd cewch arwyddo i fyny i dderbyn ein cylchlythyrau, ein dilyn ar twitter neu ein ‘Hoffi’ ar facebook.