O Ble Ddaethom Ni
Ymddiriedolaeth Tai Gofal
Fe’n sefydlwyd ym 1990 fel Ymddiriedolaeth Tai Gofal yn dilyn cau Ysbytai Parc a Penyfai ym Mhen-y-Bont, De Cymru. Ein nod oedd darparu llety o ansawdd uchel gyda chymorth sy’n galluogi oedolion gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol a hir-dymor i wneud trawsnewid diogel a chynaliadwy o ofal sefydliadol i annibynniaeth mewn cymunedau lleol.
Ein cred ar y pryd, fel heddiw, oedd fod pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn wynebu rhagfarn a gwahaniaethu ar nifer o lefelau ac mewn nifer o agweddau o fywyd. Roeddem ni’n credu fod hawl gan bobl â phroblemau iechyd meddwl i amrywiaeth o wasanaethau priodol a hygyrch, gwybodaeth, a dewis; a’r hawl i gael eu holi am eu hanghenion a’u dymuniadau o ran darpariaeth a datblygiad gwasanaethau. Ein hymrwymiad i ddatblygu a darparu amrywiaeth o wasanaethau llety a chymorth o ansawdd uchel a ddechreuodd ein tŷ cyntaf â chymorth a’n haelod staff cyntaf ym 1999.
Gofal Cymru
Yn 2002, newidiwyd ein henw o Gofal Housing Trust i Gofal Cymru er mwyn adlewyrchu ein hamrywiaeth gynyddol o wasanaethau’n well a symud i ffwrdd o gymorth seiliedig ar lety yn unig. Rhoddwyd pwyslais mwy ar ddatblygu amrywiaeth a chyrraedd gwasnaethau newydd ac arloesol i adlewyrchu anghenion lleol a datblygiadau cenedlaethol ym maes iechyd meddwl.
Erbyn 2010, roeddem wedi tyfu’n sefydliad a oedd yn cefnogi dros 1600 o bobl ar hyd 11 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Llwyddom ni i ail-frandio ac ail-leoli ein hunain fel yr elusen sy’n ‘meddwl yn wahanol am iechyd meddwl a lles'. Ailddiffiniwyd ein gweledigaeth a’n cenhadaeth ar gyfer y dyfodol gan ddechrau masnachu fel Gofal. Dechreuwyd proses o fewnosod ein gweledigaeth newydd ar draws y sefydliad a gweithredu’r model adferiad ar draws gwasanaethau.
Mae’r gwaith hwn wedi ein gweld yn dod allan fel elusen iechyd meddwl a lles ar flaen y gad yng Nghymru a adnabyddir am ei wybodaeth ac arbenigedd, sydd â’r gallu i ddylanwadu ar bolisi iechyd meddwl, strategaeth a deddfwriaeth yng Nghymru, ac sy’n cael effaith gadarnhaol a pharhaus ar fywydau’r bobl ‘rydym yn eu cefnogi.